Clybiau

Clwb Brecwast

Mae Clwb Brecwast yn cael ei gynnal yn yr ysgol bob bore rhwng 8-00 ac 8-45 ac mae’r clwb yn agored i blant o Ddosbarth Derbyn i Flwyddyn 6 a lluniaeth yn cael eu darparu ar gyfer y plant. Mae’r clwb hyn yn tueddu i fod yn boblogaidd iawn – fe’ch cynghorir i archebu lle yn gynnar!


Clwb Ar Ol Ysgol

Mae Clwb ar ôl Ysgol ar agor rhwng 3-30p.m a 5-30 pm o ddydd Llun i ddydd Iau. Mae’r clwb ar agor i ddisgyblion Dosbarth Derbyn-Blwyddyn 6 o unrhyw ysgol a mae lluniaeth yn cael eu darparu ar gyfer y plant. Mae’r clwb yn tueddu i fod yn boblogaidd iawn – fe’ch cynghorir i archebu lle yn gynnar. Cost bob sesiwn yw £5.50. Mae yna nifer o wahanol weithgareddau ar gael gan gynnwys chwaraeon a chelf a chrefft gan gynnwys Ffeltio a Phaentio canvas.

Cysylltwch â Sharon Thomas yn Ysgol y Ddwylan ar 01239 710671 neu 07989694056

 

 

 


Clybiau Allgyrsiol

Rydym yn cynnig amrywiaeth eang o weithgareddau yn ein clybiau allgyrsiol yn ystod y flwyddyn:

  •      Côr
  •      Clwb Chwaraeon
  •      Clwb Codio
  •      Clwb Celf
  •      Clwb Coginio (£1 Cyfraniad, 10 enw cyntaf)
  •      Clwb Ffilm (cost bach)
  •      Clwb Minecraft (pob amser cinio dydd Mercher)

Er mwyn archebu lle yn y clwb, rhaid i’r disgybl lofnodi eu henw ar y bore, dim ond lle i’r 20 cyntaf!