GAD

Datganiad Grant Amddifadedd Ysgol Y Ddwylan


Dyrennir y Grant Amddifadedd Disgyblion i ysgolion â disgyblion sy’n dod o deuluoedd incwm isel ac y gwyddys eu bod ar hyn o bryd yn gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim (e-FSM) a disgyblion sydd wedi derbyn gofal yn barhaus am fwy na chwe mis (LAC).

Disgwylir i ysgolion ddefnyddio’r cyllid hwn i’r eithaf i gyflwyno strategaethau cynaliadwy fydd yn arwain yn gyflym at newidiadau i ddysgwyr sy’n gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim neu sy’n LAC.

Fel ysgol rydym wedi cytuno ar y tri cham a ganlyn:

  1. nodi’r grŵp targed o ddisgyblion, ei nodweddion a’i anghenion
  2. cynllunio ymyraethau sy’n gwneud y defnydd mwyaf effeithiol o adnoddau
  3. monitro a gwerthuso effaith adnoddau

Yn 2019-2020, mae Ysgol Y Ddwylan wedi derbyn ddyraniad Grant Amddifadedd disgyblion o £33,350.

Yn Ysgol Y Ddwylan mae gennym gynllun cynhwysfawr, sydd wedi’i gytuno a’i fonitro gan Awdurdod Lleol Sir Gaerfyrddin ac ERW, i hyrwyddo cynnydd a chael gwared ar rwystrau i ddysgu i fyfyrwyr sy’n gymwys ar gyfer y cyllid hwn.

Rydym wedi defnyddio’r cyllid sydd ar gael i:.

  • wella dysgu ac addysgu drwy ddarparu rhaglen gefnogi i ddisgyblion sy’n derbyn prydiau ysgol am ddim
  • darparu rhaglenni ymyrraeth a chymorth y profwyd eu bod yn cael yr effaith fwyaf a’u bod yn gynaliadwy- ChATT, Derbyshire Positive Play a Read Write Inc.
  • darparu hyfforddiant penodol o safon uchel i staff ysgolion, yn cynnwys mwy o fanylder
  • gweithio mewn partneriaeth ag ysgolion eraill, y gymuned a sefydliadau eraill.
  • gwella presenoldeb y grŵp targed drwy ddefnyddio ymyraethau- Coeden Bresenoldeb, Clwb 100%
  • datblygu capasiti arweinyddiaeth i flaenoriaethu’r effaith ar ansawdd y ddarpariaeth a’r canlyniadau
  • cefnogi dysgwyr a’u teuluoedd drwy- cefnogaeth T.A.F.

Mae ein cynllun manwl sy’n cynnwys manylion mewn perthynas â sut rydym yn gwario’r grant ar gael drwy’r lawr y pennaeth