Ein Hysgol

Mae Ysgol Y Ddwylan yn gwasanaethu tref farchnad fechan Castellnewydd Emlyn yn ogystal â phentrefi cyfagos o Adpar a Llandyfriog. Mae’r ysgol yn darparu addysg ar gyfer plant rhwng 3-11.

Mae’r plant, rhieni, staff a llywodraethwyr yn cydweithio i greu ysgol hapus, cynhyrchiol ac ysgogol.

Mae Ysgol y Ddwylan yn gymuned ddiogel a gofalgar lle gwneir pob ymdrech i sicrhau bod pob plentyn yn cael y cyfle i gyrraedd eu potensial llawn ac i ddod yn aelod gwerthfawr a chyfrifol o’r gymuned.

Rydym yni:
• darparu cyfleoedd dysgu sy’n cwrdd ag anghenion plant unigol yn yr ysgol er mwyn iddynt gyrraedd eu potensial llawn.
• greu amgylchedd sy’n hybu datblygiad moesol, diwylliannol a chorfforol y disgyblion.
• sicrhau cyfleoedd cyfartal i bob disgybl

Yn Ysgol y Ddwylan, rydym ni’n:
• werthfawrogi cyfraniad pob unigolyn
• ddatblygu ddysgwyr annibynnol hyderus
• hyrwyddo datblygiad sgiliau allweddol y disgyblion
• sicrhau bod barn disgyblion yn cael eu clywed
• sicrhau bod disgyblion yn mwynhau dysgu

EIN PRIF FLAENORIAETHAU 2019/2020

Cliciwch ar y ddogfen isod er mwyn gweld ein prif flaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn academaidd 2019/2020.

Blaenoriethau-2019-2020-Objectives